{"product_id":"yr-hobyd-the-hobbit-in-welsh","title":"Yr Hobyd (The Hobbit in Welsh)","description":"(Welsh Translation of J.R.R. Tolkien's The Hobbit by Melin Bapur Books. Licenced by the Tolkien Estate)Mewn twll yn y ddaear trigai hobyd...Hobyd yw Bilbo Baglan sy'n mwynhau bywyd cyfforddus, di-uchelgais, a phrin mae'n teithio ymhellach na phantri ei hobyd-dwll ym Mhen-y-Bag. Ond mae ei fywyd cysurus yn dod i ben un diwrnod pan mae'r dewin, Gandalff, a chwmni o dri chorrach ar ddeg yn ymddangos yn annisgwyl ar garreg ei ddrws i'w gipio ymaith ar daith 'yno ac yn ôl'. Mae cynllun ar droed, sef cyrch i gipio trysor Smawg, draig enfawr a pheryglus iawn.Mae Llyfrau Melin Bapur yn falch iawn i gyflwyno Yr Hobyd, cyfieithiad i'r Gymraeg o The Hobbit, clasur ffantasi J.R.R. Tolkien am arwyr, dreigiau, hud a lledrith a lladrad. Dyma'r cyhoeddiad cyntaf o unrhyw waith gan J.R.R. Tolkien yn y Gymraeg, ac mae'r cyfieithiad gan Adam Pearce, sydd wedi cyfieithu gwaith Daniel Owen, T. Gwynn Jones ac H.G. Wells, wedi'i lunio'n dilyn cyfarwyddiadau penodol J.R.R. Tolkien i gyfieithwyr, a dan drwydded swyddogol i ystad yr awdur.Gyda darluniau gwreiddiol J.R.R. Tolkien a fersiynau Cymraeg newydd o'r mapiau yn y nofel wreiddiol.","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57757540385094,"sku":"9781917237154","price":40.6,"currency_code":"EUR","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0852\/3081\/3510\/files\/f69c2ffb832b0835426793e724f1e8b4df7f8f415d3b72ba7a4f4d9cc7c09998.jpg?v=1793499186","url":"https:\/\/www.averdo.com\/products\/yr-hobyd-the-hobbit-in-welsh","provider":"Averdo","version":"1.0","type":"link"}